
Os oes gennych gyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd, mae Hosbis y Cymoedd yma i'ch cefnogi: yn eich cartref eich hun, mewn lleoliad cleifion allanol, o fewn ein cymuned cartrefi gofal ac ysbytai lleol, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Gallwn eich helpu gyda rheoli symptomau, cefnogi eich anwyliaid, hawliau lles, ffisiotherapi, therapi cyflenwol a chefnogaeth galar, ochr yn ochr â gwasanaeth pwrpasol i'r rhai sydd â diagnosis o ddementia.
Rydym yn deall y gallech ddod atom ni ar yr adeg anoddaf yn eich bywyd. Rydym yno, bob cam o'r ffordd. Cysylltwch â ni i weld sut y gallwn eich helpu.